
Dr. Claire Williams (BSc (Anrh), MSc, PhD) yn Athro Cyswllt yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe ac yn Arweinydd Effaith Ymchwil ar gyfer Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae hi hefyd yn Gymrawd Ymchwil Hŷn Anrhydeddus gydag Elysium Neurological, yn gyd-sylfaenydd ac yn aelod o bwyllgor Fforwm Anafiadau i’r Ymennydd a Gaffaelwyd De Cymru, ac yn Aelod o Grŵp Llywio ar gyfer Tasglu Amser ar gyfer Newid – Cymru Fforwm Anafiadau i’r Ymennydd a Gaffaelwyd y DU.
Mae Claire yn ymchwilydd cymhwysol sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu effaith yn y byd go iawn y tu hwnt i’r byd academaidd. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys anabledd niwroymddygiadol, prosesu a rheoleiddio emosiynol, y rhyngwyneb rhwng anaf i’r ymennydd a’r system cyfiawnder troseddol, a mesur canlyniadau mewn adsefydlu.

Yr Athro Nick Alderman BA (Anrh) MAppSci PhD CPsychol CSci FBPsS Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol ac Ymgynghorydd Niwroseicolegol Clinigol mewn Gwasnaethau Anaf i’r Ymennydd, Partneriaethau mewn Gofal. Cyn hynny, roedd ganddo swyddi uwch yn Ymddiriedolaeth Adsefydlu Anaf i’r Ymennydd ac yn Ysbyty St Andrew’s, Northampton. Mae’n dal nifer o benodiadau academaidd anrhydeddus ac ymweld, gan gynnwys ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Gorllewin Lloegr. Mae ei brif ddiddordebau’n cynnwys adfer niwroymddygiad, ymddygiad heriol, syndrom anweithredol a mesur canlyniad.

Yr Athro Rodger Llewellyn Wood BA, DCP, PhD, DSc, C Psych, FBPsS yw Athro Emeritus o Niwroseicoleg Clinigol ym Mhrifysgol Abertawe a Niwroseicolegydd Clinigol Ymgynghorol Anrhydeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol ABMU. Mae wedi gweithio mewn adfer anaf i’r ymennydd ers 1978, yn Uned Kemsley, Northampton, Casa Colina Hospital, California, a gydag Ymddiriedolaeth y Brain Injury Rehabilitation Trust, DU. Mae ei ymchwil presennol yn ffocysu ar natur ac asesiad o niwroymddygiad anaf trawmatig sy’n dilyn.