Trosolwg

Y ‘St Andrew’s–Swansea Neurobehavioural Outcome Scale (SASNOS)’ yn offeryn unigryw sy’n cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ganfod anabledd niwroymddygiadol yn ddibynadwy ar ôl anaf i’r ymennydd; cyflwr sy’n effeithio ar dros 1,300,000 o bobl yn y DU yn unig.

Gan lenwi bwlch sylweddol, mae’r SASNOS yn cefnogi gofal cleifion trwy ddarparu’r modd i weithwyr iechyd proffesiynol nodi anghenion adsefydlu person, monitro newidiadau, a gwerthuso cynnydd dros amser.

Gan dynnu o’n hastudiaeth achos Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, mae’r tudalennau dilynol yn amlinellu’r effaith y mae SASNOS yn ei chael yn y byd go iawn mewn gofal clinigol a thu hwnt.